Adroddiad newydd yn darganfod bod Doctor Who wedi adfywio diwydiannau creadigol de Cymru

Adroddiad newydd yn darganfod bod Doctor Who wedi adfywio diwydiannau creadigol de Cymru

Mae’r adroddiad yn amlinellu effaith economaidd y gyfres antur eiconig ar Gymru ers 2004, pan ddaeth Caerdydd yn gartref i’r gyfres

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw (23 Tachwedd) yn datgelu bod y gyfres boblogaidd Doctor Who wedi cyfrannu tua £134.6m mewn gwerth ychwanegol gros i economi Cymru rhwng 2004 a 2021. Mae’r adroddiad, a ryddhawyd i gyd-fynd â 60 mlynedd ers dechrau’r gyfres deledu antur hiraf yn y byd, yn dangos bod pob £1 o allbwn economaidd uniongyrchol (GVA) a grewyd drwy gynhyrchu Doctor Who wedi creu £0.96 o allbwn economaidd dilynol yng Nghymru, gan wneud cyfanswm ei gyfraniad economaidd yn £1.96.

Mae’r adroddiad – a gynhaliwyd gan economegwyr yn nhîm Polisi Cyhoeddus y BBC ac sy’n cynnwys ymchwil ychwanegol gan Media Cymru – yn amlinellu effaith economaidd y gyfres antur eiconig ar Gymru ers 2004, pan ddaeth Caerdydd yn gartref i’r gyfres. Mae’r dadansoddiad yn ystyried yr effaith y mae Doctor Who wedi’i chael ers dechrau’r gwaith cynhyrchu ar Gyfres 1 hyd at y gyfres ddiweddaraf gyda Jodie Whittaker fel y Doctor (Cyfres 13).

Yn fwyaf arwyddocaol, mae’r adroddiad yn cydnabod bod adfywio’r sioe yng Nghymru wedi bod yn sbardun ar gyfer buddsoddi yng nghlwstwr creadigol De Cymru a’i arbenigedd mewn cynyrchiadau teledu a drama o’r radd flaenaf. Mae dadansoddiad gan Ganolfan Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd ar gyfer yr adroddiad yn nodi mai Doctor Who oedd y foment pan roedd clwstwr creadigol De Cymru wedi symud o sefyllfa o gryfder i sefyllfa o ragoriaeth gydnabyddedig.

Mae’r adroddiad ar yr effaith economaidd yn canfod hefyd fod dechrau creu Doctor Who yng Nghymru yn foment allweddol ac i hynny fod yn sbardun ar gyfer twf enfawr diwydiannau creadigol Cymru dros y 15 i 20 mlynedd diwethaf. Erbyn hyn, y sector sgrin – sy’n cynnwys effeithiau cynhyrchu, ôl-gynhyrchu, effeithiau digidol ac effeithiau arbennig ar gyfer ffilm a theledu, a darlledu teledu – yw’r mwyaf o bump is-sector y Diwydiant Creadigol sy’n cael blaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru ac a oedd yn gyfrifol am fwy na £459m o drosiant yn 2022.

Nid dim ond yng Nghymru y teimlwyd yr effaith. Ledled y DU, mae gweithgareddau cynhyrchu Doctor Who wedi creu £256m ers i’r sioe gael ei hail-lansio, a chafodd 87% o allbwn economaidd y sioe ei greu yn niwydiannau creadigol y DU.

Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru: “Mae wedi bod yn braf iawn gweld llwyddiant Doctor Who ers i’r gyfres ddod i Gymru, a’r cysylltiad cryf sydd gan y rhaglen eiconig â’n gwlad.

“Mae’r Doctor wedi bod yn sbardun allweddol o ran meithrin enw da’r diwydiant sgrin yng Nghymru ac mae ein sector creadigol medrus iawn yn sicrhau bod Doctor Who yn parhau i wthio’r ffiniau o ran ffuglen wyddonol ar y teledu.

“Penblwydd Hapus i’r Doctor – gyda gobaith y bydd yn ymddangos mewn sawl gwedd eto!”

Wrth groesawu’r adroddiad, dywedodd Tim Davie, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC: “Fe wnaethom ni benderfynu yn 2004 y byddem yn ailgychwyn Doctor Who yng Nghymru. Mae’r penderfyniad hwnnw wedi gadael gwaddol aruthrol y gallwn fod yn falch ohono. Mae wedi darparu dros £134 miliwn i economi Cymru – a dros chwarter biliwn i’r DU gyfan. Mae hynny’n wirioneddol ryfeddol.

“Ond nid yw hyn hyd yn oed yn cyfleu’n llwyr yr effaith drawsnewidiol y mae Doctor Who wedi’i chael ar yr economi greadigol – gyda chlwstwr creadigol o’r radd flaenaf bellach yn ffynnu yng Nghymru heddiw.

“Mae gwaddol parhaol Doctor Who yng Nghymru yn cael ei efelychu ledled y DU wrth i fwy a mwy o raglenni a gwasanaethau’r BBC symud eu cynnwys y tu allan i Lundain i’r gwledydd a’r rhanbarthau. Rydym yn manteisio ar yr economi greadigol ledled y DU; rhywbeth sy’n talu ar ei ganfed – i gymunedau ac i gynulleidfaoedd.”

Fel rhan o’r adroddiad, cynhaliwyd cyfweliad â Russell T Davies, sef Arweinydd y Cynhyrchiad ar gyfer Doctor Who ar Gyfresi 1-4, sydd bellach wedi dychwelyd fel Arweinydd. Mae ei benodau cyntaf yn cael eu darlledu y penwythnos hwn; “Pan fydd pobl yn dweud, O, mae drama deledu yn costio £2 filiwn. Ond beth mae hynny’n ei olygu yw bod £2 filiwn yn dod i Gaerdydd. £2 filiwn i’r gyrwyr a’r staff swyddfa a’r lletygarwch, y gwestai ac yna’r tafarndai a’r bariau, ac yna’r archfarchnadoedd. Mae’n £2 filiwn sy’n cael ei wario yng Nghaerdydd.

“Mae gwaith yn creu gwaith, ac mae hynny wedi digwydd. Po fwyaf o griwiau sy’n cael gweithio ar bethau, mae mwy o bobl ifanc yn cael eu hyfforddi yn y pethau hyn. Felly mae’n bwysicach ar gyfer y dyfodol, a pho fwyaf o awduron sy’n cyflwyno syniadau. Mae’r holl beth yn fater o ddenu nid yn unig cynyrchiadau rhyngwladol eraill, ond sioeau rhanbarthol gwych hefyd.”

Mae’r adroddiad hefyd yn amcangyfrif bod pob cyfres o Doctor Who (Cyfres 1 i 13) wedi creu cyflogaeth anuniongyrchol a chyflogaeth a ysgogwyd sy’n cyfateb i 50.3 o swyddi cyfwerth ag amser llawn fesul cyfres yng Nghymru, a 94.5 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yn y DU yn gyffredinol. Yng Nghymru, ystyr hyn ydy bod pob cyfres fel arfer yn creu 33.0 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yn y gadwyn gyflenwi (cyflogaeth anuniongyrchol) ac 17.4 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yn economi ehangach Cymru (cyflogaeth a ysgogwyd) ar gyfer pob cyfres o waith ffilmio.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod cynyrchiadau rhwydwaith y BBC yng Nghymru yn gymharol gyfyngedig cyn 2004, ond roedd llwyddiant Doctor Who wedi rhoi hyder i’r diwydiant y gallai Cymru gyflawni ac wedi sbarduno comisiynau am ddramâu. Roedd wedi paratoi’r ffordd i sioeau mawr a gomisiynwyd gan y BBC, fel Torchwood, Merlin, Atlantis a Sherlock. Eleni, mae cynifer â chwe drama newydd yn dod o Gymru, gan gynnwys Steeltown Murders, Wolf a Men Up.

Roedd y symudiad hefyd yn sail i benderfyniad y BBC i adeiladu stiwdios Porth y Rhath, sef y stiwdio ddrama bwrpasol gyntaf yng Nghymru, ac i drosglwyddo’r gyfres ddrama ysbyty hirsefydlog, Casualty, o Fryste. Yn 2019, agorodd BBC Cymru Wales ei ganolfan ddarlledu yn y Sgwâr Canolog, a rhagwelir y bydd hwnnw’n gwneud cyfraniad o fwy nag £1 biliwn i economi Caerdydd erbyn 2028, ac yn creu 1,900 o swyddi ychwanegol.

Mae’r adroddiad yn cynnwys astudiaeth achos gan un o’r cwmnïau niferus yn y gadwyn gyflenwi teledu a sefydlwyd yng Nghymru o ganlyniad i Doctor Who. Mae Real SFX yn arbenigo ar effeithiau arbennig, ac mae’n gwasanaethu’r cwmnïau cynhyrchu gyda sgiliau arbenigol sydd wedi tyfu yng Nghymru. Caiff ei sylfaenydd, Danny Hargreaves, ei ddyfynnu yn yr adroddiad: “Rhoddodd Doctor Who gyfle i mi sefydlu fy musnes fy hun, gan fy mod i’n arfer gweithio i gwmni arall yn Llundain, gan deithio bob wythnos. Dychmygwch berson 29 oed yn sefydlu cwmni ac yn rhedeg un o sioeau mwyaf y Wlad. Roedd yn gyfle mor wych”.

Dywed Carmela Carruba, Cyfarwyddwr y Cwmni: “Mae un o’n prentisiaid cyntaf yn rhedeg y llawr ar y set erbyn hyn. Mae’n wych eu gweld yn dod yn dechnegwyr ac yn oruchwylwyr sy’n tyfu gyda’r cwmni. Awydd Danny erioed oedd cael criw lleol, talentog a hyfforddedig. Rydw i’n meddwl bod pob un o’r criw o Gymru erbyn hyn. Dechreuodd hyn i gyd gyda llwyddiant Doctor Who yn dod i Gymru.”

Nid yw’r adroddiad yn cynnwys y bennod sy’n dathlu chwe deg mlwyddiant na’r tymor sydd i ddod, sydd wedi cael eu cynhyrchu gan Bad Wolf gyda BBC Studios a Disney Branded Television, gan nad yw’r data economaidd y tu hwnt i Gyfres 13 wedi’i gwblhau eto nac ar gael.

Source
BBC One

Scroll to Top