BBC Cymru Wales yn dathlu 60 mlynedd o Doctor Who
Gyda golygfa egsliwsif o’r pymthegfed Doctor, Ncuti Gatwa
I ddathlu pen-blwydd cyfres boblogaidd y BBC, Doctor Who, yn 60 oed, bydd tafluniad dŵr arbennig ar ôl iddi dywyllu ym Mae Caerdydd yn tywys cynulleidfaoedd ar daith anhygoel drwy 60 mlynedd o’r rhaglen.
Bydd y sgript wedi’i threfnu gan Gary Russell, cyn olygydd sgriptiau Doctor Who, a bydd yn cynnwys y fersiwn newydd sbon o thema eiconig y cyfansoddwr Murray Gold. Bydd yr olygfa glyweledol, a fydd yn cael ei lansio ar Ddiwrnod Doctor Who, yn cynnwys uchafbwyntiau allweddol o’r holl newidiadau yn y gyfres, gan gynnwys Y Doctor ei hun, yn ogystal â chymdeithion a gelynion y Time Lord, a hefyd egsliwsif o’r pymthegfed Doctor, sef Ncuti Gatwa.
Mae’r tafluniad dŵr, a gomisiynwyd gan BBC Cymru Wales, yn dechrau ddydd Iau 23 Tachwedd – Diwrnod Doctor Who – ac mae’n rhedeg tan ddydd Sadwrn 25 Tachwedd ym Masn y Rhath ym Mae Caerdydd, sydd â hanes hir gyda’r gyfres. Bydd y dangosiadau ar ôl iddi dywyllu’n rhedeg bob hanner awr o 5.30pm tan 9.30pm ar y diwrnodau hynny, gyda phob un yn para tua 5 munud. Bydd y dangosiad cychwynnol, a fydd yn cael ei droi ymlaen am 5.30pm ddydd Iau 23 Tachwedd, yn cael ei gyflwyno gan Steffan Powell, cyflwynydd Doctor Who: Unleashed.
Doctor Who yw’r rhaglen deledu ffuglen wyddonol hynaf yn y Bydysawd, ac fe ymddangosodd am y tro cyntaf ar deledu’r BBC ar 23 Tachwedd 1963, gyda William Hartnell yn chwarae rhan y Doctor cyntaf. Bu’n rhedeg yn wreiddiol am 26 mlynedd cyn dod i ben yn 1989, a chafodd y rhaglen ei hail-lansio’n fuddugoliaethus ar sgriniau teledu yn 2005 ar ôl bwlch o 16 mlynedd – dan oruchwyliaeth rhedwyr y sioe, sef Russell T Davies a Julie Gardner, ac fe’i cynhyrchwyd gan BBC Cymru.
Mae adroddiad effaith economaidd newydd ei gyhoeddi yn manylu ar sut mae’r gyfres ffuglen wyddonol wedi cyfrannu at economi Cymru. Rhwng 2004 a 2021, mae Doctor Who wedi cynhyrchu tua £134.6m mewn gwerth ychwanegol gros, ac roedd dros £113.1m ohono yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Mae’r adroddiad hefyd yn dangos, am bob £1 sy’n cael ei gwario ar y gyfres boblogaidd, y cynhyrchir £0.96 dilynol yng Nghymru, gan wneud ei gyfraniad economaidd yn £1.96. Mae’r dadansoddiad yn ystyried effaith Doctor Who o ddechrau’r cynhyrchiad ar Gyfres 1 ym 2004 i’r gyfres ddiweddaraf gyda Jodie Whittaker fel y Doctor (Cyfres 13) a gafodd ei darlledu yn 2021.
Roedd dychweliad Doctor Who yn ddigwyddiad allweddol a daeth yn gatalydd ar gyfer twf aruthrol yn niwydiannau creadigol Cymru dros y 15 i 20 mlynedd diwethaf. Y sector sgrin – sy’n cynnwys effeithiau cynhyrchu, ôl-gynhyrchu, digidol ac effeithiau arbennig ar gyfer ffilm a theledu, yn ogystal â darlledu teledu – yw’r sector mwyaf o bum is-sector y Diwydiant Creadigol sy’n cael blaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru ac sy’n gyfrifol am dros £459m o drosiant yn 2022.
Yn ogystal â’r tafluniad dŵr ym Mae Caerdydd, bydd y dathliadau 60 mlynedd hefyd yn cynnwys cyfle i ymwelwyr â Chaerdydd weld y TARDIS ac un o ddihirod mwyaf enwog y Doctor, sef y Dalek, yn adeilad y Senedd o ddydd Iau 23 Tachwedd, tan ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr.
Mae hyn yn adeiladu tuag at ddychwelyd y gyfres i sgriniau teledu ddydd Sadwrn 25 Tachwedd, gyda’r cyntaf o dair Rhaglen Arbennig i ddathlu 60 mlynedd yn cynnwys y bedwaredd Doctor ar ddeg, sef David Tennant, a ddychwelodd yn annisgwyl yn y bennod, ‘The Power of the Doctor’ y llynedd. Yn y bennod ‘The Star Beast’ , a fydd yn cael ei darlledu ar BBC One ac iPlayer, gwelwn y Doctor yn ymuno unwaith eto â Donna Noble, sy’n cael ei chwarae gan Catherine Tate, am y tro cyntaf ers blynyddoedd maith. Mae’r ail o’r rhaglenni arbennig, sef ‘Wild Blue Yonder’, yn darlledu ar BBC One ac iPlayer ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr, ac yna ‘The Giggle’ yn cwblhau’r triawd wythnos yn ddiweddarach.
Mae’r rhaglenni arbennig sydd wedi’u cynhyrchu gan Bad Wolf gyda BBC Studios yn nodi dychweliad Russell T Davies i frand Doctor Who fel rhedwr y sioe, ac mae’n ymuno unwaith eto â chyd-sylfaenydd Bad Wolf, Julie Gardner, sy’n gynhyrchydd gweithredol ochr yn ochr â chyd-sylfaenydd Bad Wolf, Jane Tranter.
Cynhyrchwyd y tafluniad gan LCI Productions (gyda help hwyluso gan Coleridge Cymru) arhoddwyd caniatâd i Gyngor Caerdydd a Phorthladdoedd Cysylltiedig Prydain ddefnyddio Basn y Rhath.
Find out more about the Doctor Who 60th Anniversary Specials – Everything You Need To Know here:
Source
BBC One